Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
PAC (4) 02-11 Papur 1
Materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac
atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru
Diben
1. Bydd y Pwyllgor yn trafod dulliau o ystyried materion sy’n ymwneud â llywodraethu ac atebolrwydd mewn perthynas ag Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn benodol, bydd yn trafod cynigion ar gyfer sefydlu Is-bwyllgor.
Rheolau Sefydlog
2. Mae Rheol Sefydlog 17 yn galluogi pwyllgorau i sefydlu is-bwyllgorau. Mae Rheol Sefydlog 17.17 yn nodi y dylai’r penderfyniad i sefydlu is-bwyllgor nodi ei aelodaeth, ei gadeirydd, ei gylch gorchwyl a’i barhad. Yna, bydd yr is-bwyllgor yn cael ei reoli gan y Rheolau Sefydlog sy’n berthnasol i’r rhiant bwyllgor, a rhaid i unrhyw waith a wneir gan yr is-bwyllgor gael ei ystyried gan y rhiant bwyllgor cyn ei gyhoeddi. Caiff is-bwyllgor ei enwi yn ôl disgresiwn y rhiant bwyllgor.
3. Yn y Trydydd Cynulliad, cafodd dau is-bwyllgor
eu sefydlu; yr Is-bwyllgor Darlledu gan y Pwyllgor Cymunedau a
Diwylliant, a’r Is-bwyllgor Datblygu Gwledig gan y Pwyllgor
Cynaliadwyedd. Roedd y ddau
is-bwyllgor hyn yn wahanol o ran eu diben a’u parhad.
Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Darlledu i wneud gwaith penodol ac roedd y
cynnig a’i sefydlodd yn rhoi amserlen ar gyfer
cwblhau’r gwaith. Cafodd yr Is-bwyllgor ei ddiddymu pan
ddaeth yr ymchwiliad i ben. Sefydlwyd yr Is-bwyllgor Datblygu
Gwledig gyda chylch gwaith ehangach ac adolygwyd cylch gorchwyl a
gwaith yr is-bwyllgor yn flynyddol gan y Pwyllgor
Cynaliadwyedd.
Y prif faterion i’w hystyried wrth benderfynu ar ddull o
weithio
Aelodaeth
4. O dan Reol Sefydlog 17.18, ni chaiff yr un is-bwyllgor gynnwys dim ond Aelodau o’r grŵp neu’r grwpiau gwleidyddol sydd â rôl weithredol, a rhaid i bob is-bwyllgor gynnwys o leiaf un Aelod o grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol.
5. Mae is-bwyllgorau blaenorol y Cynulliad wedi cynnwys cynrychiolaeth drawsbleidiol, ac ystyrir hyn yn arfer gorau.
6. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cytuno i fod yn Gadeirydd yr is-bwyllgor.
Braint
7. Caiff busnes ffurfiol pwyllgorau ei gwmpasu gan fraint seneddol. Er ei bod yn fwy cyfyngedig na’r fraint seneddol yn San Steffan, mae’n diogelu Aelodau’r Cynulliad a’r tystion sy’n rhoi tystiolaeth lafar—ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan y Cynulliad—rhag camau difenwi.
Trafodaethau
8. Byddai’r is-bwyllgor yn cael yr un gwasanaethau cymorth[1] ag unrhyw bwyllgor yn y Cynulliad a bydd ganddo’r hyblygrwydd i benderfynu a yw’n dymuno gweithio mewn modd anffurfiol neu ffurfiol. Mae hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd i sicrhau bod gwaith y grŵp yn cael ei wneud mewn modd sy’n gweddu orau i’r dasg unigol ac nad yw’n cyfyngu ar ddewisiadau’r Pwyllgor.
Cynnig i sefydlu is-bwyllgor
9. Mae cynnig drafft ar gyfer sefydlu’r is-bwyllgor yn ffurfiol i’w gael yn Atodiad A.
10. Bydd sefydlu’r is-bwyllgor o dan y Rheolau Sefydlog yn rhoi’r hyblygrwydd iddo i wneud y gwaith yn ffurfiol neu’n anffurfiol a bydd yn rhoi diogelwch braint seneddol a chefnogaeth gwasanaethau cymorth seneddol y Cynulliad iddo.
Camau gweithredu ar gyfer y Pwyllgor
11. Gwahoddir y Pwyllgor i:
· gytuno ar Gylch Gorchwyl yr is-bwyllgor
· cytuno ar deitl yr is-bwyllgor
· cytuno ar aelodaeth yr is-bwyllgor
·
cytuno ar y cynnig drafft ar gyfer sefydlu’r
is-bwyllgor
Atodiad A
Cynnig drafft i sefydlu is-bwyllgor ar drefn lywodraethu ac
atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan Reol Sefydlog
17.17
Bod y pwyllgor yn cytuno y dylid sefydlu is-bwyllgor o'r
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ystyried materion yn ymwneud
â’r drefn lywodraethu ac atebolrwydd mewn perthynas ag
Archwilydd Cyffredinol Cymru;
mai cylch gwaith yr is-bwyllgor hwnnw fydd cynghori’r
Cynulliad ar benodi archwilwyr cyfrifon Archwilydd Cyffredinol
Cymru, ystyried amcangyfrif a chyfrifon blynyddol Archwilydd
Cyffredinol Cymru; ystyried materion yn ymwneud â threfn
llywodraethu ac atebolrwydd Archwilydd Cyffredinol Cymru; ystyried
materion sy'n ymwneud ag enwebu a phenodi Archwilydd Cyffredinol
Cymru; ystyried materion eraill a drosglwyddir iddo gan y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus;
bod aelodaeth yr is-bwyllgor yn cynnwys Darren Millar AC, (Insert: Labour AM), (Insert: Liberal Democrat) a (Insert: Plaid Cymru), gyda Darren Millar AC wedi’i ethol yn Gadeirydd.
[1] Mae gwasanaethau cymorth yn cynnwys cyfieithu ar y pryd, cyfieithu testun, darlledu a chofnodi (Cofnod y Trafodion), diogelwch a thywyswyr.